Mae archebu ar-lein yn rhwydd, ond gall fod yn gymhleth os nad ydych yn y tŷ wrth i’r eitemau gyrraedd.
Mae Canolfan Dewi Sant yn cynnig llu o wasanaethau Clicio a Chasglu, sy'n eich galluogi i archebu ar-lein a threfnu casgliad o'r ganolfan ar amser sy'n gyfleus i chi!
COLLECT + YW'R FFORDD HAWDD I ANFON A CHASGLU PARSELI, SAITH DIWRNOD YR WYTHNOS.
Prynwch ar-lein a chael danfon eich pecyn i Ddesg Wybodaeth Dewi Sant, mae mor hawdd â hynny!
Dilynwch y tri cham syml, isod:
1. Prynwch ar-lein a dewisiwch ‘CollectPlus’ fel eich opsiwn cyflenwi
2. Byddwch yn derbyn e-bost côd bar casglu pan fydd eich eitem yn cyrraedd ein Desg Wybodaeth
3. Cymerwch eich côd i’n Desg Wybodaeth i gasglu eich pryniant.
Gallwch hyd yn oed roi cynnig ar unrhyw ddillad yn ein hystafell newid ddynodedig - felly hyd yn oed os nad yw eich eitem beth ydych ei ddisgwyl, gallwch ei ddychwelyd yn syth!
DYCHWELYD PARSEL
Mae'n hawdd i ddychwelyd parsel, dilynwch y camau syml:
1. Gludwch eich label ar eich parsel
2. Gollwng eich parsel yn ein Desg Wybodaeth
3. Traciwch eich parsel ar-lein i'w gyrchfan
Mae’r loceri wedi eu lleoli ger L'Occitane a Swatch ar y lefel gwaeod yng Nghanolfan Dewi Sant*. Yn lle danfon parsel i’ch tý, danfonwch i’r Loceri Amazon a casglwch ar adeg sy'n gyfleus i chi!
Wrth i’ch parsel cyrraedd y locer, fe fyddwch yn derbyn côd unigryw ar e-bost. Defnyddiwch y côd yma i gasglu'r parsel.
* Cyfyngiadau yn berthnasol, gweler amazon.co.uk/locker am fwy o wybodaeth
Mae ‘Collect by St David’s’ yn wasanaeth rhad ac am ddim, sy’n cymryd y straen allan o siopa ar-lein.
Yn syml, archebwch unrhyw eitem o unrhyw wefan*, nodwch Canolfan Dewi Sant fel y cyfeiriad danfon a casglwch eich archebion am ddim ar eich hwylustod, boed hynny yn ystod eich awr ginio, neu ar ddiwrnod allan yn siopa dros y penwythnos.
Sut mae'n gweithio
Dilynwch y canllaw syml isod:
Wrth archebu ar lein, nodwch gyfeiriad Canolfan Dewi Sant, fel a ganlyn
EICH ENW YMA
Collect by St David’s
St David’s Centre Management
11 Bridge Street Arcade
St David’s Dewi Sant
CF10 2EF
2. Llenwch y ffurflen ar-lein yn gyflym yma i gofrestru
3. Casglwch eich archeb o'r ddesg wybodaeth (y tu allan i Debenhams a Starbucks ar y llawr uchaf) o fewn 28 diwrnod.
Cliciwch yma am y telerau ac amodau llawn.