Prosiectau cymunedol
Rydym wedi lansio Banc Casglu Cymunedol i westeion roi bwyd a chynnyrch hylendid i'r rhai mewn angen.
Fe welwch ein man gollwng rhoddion yn y Gwasanaethau Gwesteion ar Lefel Uchaf yr Arcêd Fawr, yn agos at Starbucks, Bershka a Stradivarius, yn ystod oriau agor y ganolfan.
Beth alla i ei roi?
Ymhlith yr eitemau hylendid y gellir eu rhoi mae cynhyrchion mislif, sebon, siampŵ, diaroglydd, brwsys dannedd a brwsys gwallt. Mae cynnyrch bwyd ar gyfer rhoddion yn amrywio o duniau a phecynnau o gawl, tomatos, llysiau, ffrwythau, ffa, cig a physgod i basta sych, reis, llaeth UHT, bisgedi a grawnfwyd.
Gall gwesteion hefyd roi eitemau cartref a babanod, fel cewynnau, cadachau, rholiau toiled, hylif golchi llestri, glanedydd golchi dillad a hylif diheintio dwylo.
Rhaid i'r holl eitemau a roddir fod yn rhai nad ydynt yn ddarfodus, o ran dyddiad yn ogystal â heb eu hagor, yn y pecyn gwreiddiol ac nid yn rhodd wedi'i lapio. Bydd yr holl eitemau a roddir yn mynd i Fanc Bwyd Caerdydd i wneud parseli bwyd brys.