Mae Canolfan Dewi Sant wedi'i lleoli yng nghanol dinas Caerdydd, yn agos i Orsaf Fysys Caerdydd a gorsafoedd trên Caerdydd Canolog a Heol y Frenhines.
Mae’n hawdd cyrraedd mewn car hefyd, gyda chysylltiadau gwych â’r A470 â’r M4.
Gall defnyddwyr SatNav fewnbynnu cod post CF10 2EQ i gyrraedd y maes parcio ar hyd Stryd Mary Ann (sy’n rhedeg rhwng Arena Motorpoint a Cineworld).
Rhowch y cod post / lleoliad neu defnyddiwch eich lleoliad presennol am gyfarwyddiadau. Gallwch hefyd ddewis eich dull o gludiant o'r rhai sydd ar gael.