Mae ein toiledau mewn man cyfleus yn ein rhodfa Ddwyreiniol (yn agos i’r llefydd bwyd) ar y llawr gwaelod a’r lefel gyntaf. Yn yr ystafelloedd ymolchi ceir lle newid babanod ar gyfer teuluoedd a chyfleusterau i ddefnyddwyr anabl.
Oriau agor:
Dydd Llun – Dydd Sadwrn: 08:00 - 00:00
Dydd Sul: 10:30 - 00:00
Mae gwasanaeth di-wifr The Cloud ar gael drwy'r ganolfan. Defnyddiwch y wê ar eich ffôn i'w ddarganfod. Agorwch gyfrif a mwynhewch y wê, am ddim, yng Nghanolfan Dewi Sant, dro ar ôl tro.
Mae Canolfan Dewi Sant yn gartref i Shopmobility, Caerdydd. Mae’r gwasanaeth yma ar lefel 3 y maes parcio.
Cysylltwch â’r tîm Shopmobility ar 029 2039 9355.
Mae’r swyddfa ar agor:
Llun – Gwener: 9:30 – 7:00
Sadwrn: 9:30 – 6:00
Sul: Ar Gau
Darganfod Shopmobility ar fap y ganolfan.
Wedi ei leoli ger y Ddesg Wybodaeth ar y Lefel Uchaf, mae’r gwasanaeth Siopa a Gadael yn cynnig ffordd hawdd a chyfleus i adael eich siopa yn ystod y dydd. Mae un locer yn costio £1 y dydd ond mae’n rhaid gwagio eich locer ar ddiwedd y dydd cyn 8yh.
Gallwch godi arian ar unwaith o un o’n 6 pheiriant codi arian cyfleus.
Darganfyddwch y peiriannau arian ar Fap y Ganolfan.
Mae yna beiriannau arian tu fewn i Eurochange hefyd.